Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant.
Dyddiad: 16 Hydref 2013
Lleoliad: Tŷ Hywel. Ystafell Gynadledda 24
Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd), Lesley Griffiths AC y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Sarah Rose, Mark Isherwood AC, Cathy Davies (Hafan), Tim Ruscoe (Barnardo’s Cymru), Jennifer Dunne (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Jim Stewart (Cynghrair Efengylaidd Cymru), Hannah Wharf (Cyngor Ffoaduriaid Cymru), Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach), Emma Renold (Prifysgol Caerdydd), Philip Walker (Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru), Jackie Stamp (New Pathways), Lisa Deek (Llamau), Kate Carr (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant - NSPCC), Paula Hardy (Cymorth i Fenywod Cymru), Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru), Ann Hubbard (Partneriaeth Ymfudo Cymru), Mwenya Chimba (BAWSO), A Jones (Cynulliad Menywod Cymru), Liz Newton (Ymchwilydd i Peter Black AC), Rhayna Pritchard (Ymchwilydd i Jocelyn Davies AC).
1 Ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas AC a Naomi Brightmore.
2 Croeso
2.1 Dechreuodd Jocelyn y cyfarfod drwy groesawu Lesley Griffiths AC, a diolchodd iddi am fod yn bresennol. Nododd Jocelyn fod y cyfarfod hwn wedi’i neilltuo ar gyfer hwyluso trafodaeth anffurfiol ar Fil arfaethedig Llywodraeth Cymru, sef y ‘Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig (Cymru)’.
Agenda
3 Y Cynghorwr - Trafododd y grŵp rôl y cynghorwr, ei bwerau a’i atebolrwydd. Nodwyd y byddai’n fuddiol penodi comisiynydd yn hytrach na chynghorwr.
4. Adolygiad o Wasanaethau – Amlinellodd y Gweinidog yr Adolygiad o Wasanaethau, a’i oblygiadau ariannol posibl.
5. Addysg - Cydnabu’r Gweinidog bod achos cryf o blaid sicrhau bod maes llafur penodol o fewn addysg. Rhoddodd Emma Renold (Prifysgol Caerdydd) wybod i’r Gweinidog am ei gwaith ymchwil ar ran y grŵp trawsbleidiol ar rywioldeb plant – rhywioli a chydraddoldeb. Roedd y Gweinidog yn awyddus i weld ffrwyth y gwaith ymchwil, a byddai’n ceisio anfon cynrychiolydd i’r digwyddiad i lansio’r gwaith, a gynhelir yn y Pierhead ar 5 Rhagfyr 2013.
6. Mentrau seiliedig ar waith - Awgrymodd y grŵp y gallai mentrau seiliedig ar waith gael eu cynnal yn effeithiol yn y sector preifat, a’u hyrwyddo drwy ddefnyddio ymgyrch bosteri, a fyddai’n cael eu ffacsio i fannau gwaith. Cytunodd y Gweinidog fod hwn yn syniad da, a’i fod yn ymarferol, oherwydd ni fyddai ei gost ariannol yn fawr a byddai modd ei gyflawni yn gyflym ac effeithlon.
7. Dewisiadau o ran llety – Amlinellodd Paula Hardy (Cymorth i Fenywod Cymru) y ffaith bod angen dewis o lety amrywiol, ar sail angen, fel nad yw’r gwasanaeth lloches yn cael ei or-lethu ar gam. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno nad oedd hyn yn wir bob amser, ac na ddylai’r Bil roi rhagor o bwysau ar y dewisiadau o ran llety, ond yn hytrach liniaru’r pwysau.
8. Ariannu – Codwyd pryderon gan y rhai a oedd yn bresennol ynghylch yr adnoddau ariannol a oedd ar gael ar gyfer y cynghorwr, ei adeilad, a hyfforddiant. Pwysleisiodd y Gweinidog fod angen i’r Adolygiad o Wasanaethau gael ei gwblhau cyn y byddai modd rhoi ateb cynhwysfawr, ond ychwanegodd na fyddai’r arian newydd yn dod o’r gronfa sydd ar gael ar hyn o bryd.
9. Diolchodd Jocelyn Davies AC i’r Gweinidog am ei dull diffuant, ac am ddod i’r cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol. Dangosodd pawb a oedd yn bresennol eu gwerthfawrogiad hwythau i’r Gweinidog am ei dull agored a chefnogol.
9 Unrhyw fater arall.
10.1 Cytunwyd y byddai’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2014.
10.2 Yr oedd y ‘cwestiwn am rywedd’ i gael ei gynnwys ar yr agenda, a nodwyd hynny.
10.3 Gwnaeth Paula Hardy (Cymorth i Fenywod Cymru) gais am roi Addysg ar yr agenda, i gyd-fynd â’r Adolygiad o Wasanaethau.
10.4 Gofynnodd Jocelyn i Emma Renold (Prifysgol Caerdydd) roi cyflwyniad ar eich gwaith ymchwil yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan y bydd y digwyddiad lansio wedi’i gynnal.
10.5 Ychwanegodd Jocelyn y bydd gan y grŵp ddigon o dystiolaeth, ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, i’w rhoi i’r Gweinidog fel y gall hi dynnu sylw at yr agweddau hynny ar y Bil.
CLOI